MOT Canol Oes: Eich Iechyd

Gofalwch am eich corff a’ch meddwl. Dysgwch am bob agwedd ar eich ffitrwydd corfforol a meddyliol i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Hanfodion Iechyd

Cymerwch y cwis GIG ‘Sut wyt ti?’

Cael sgôr iechyd personol am ddim pan fyddwch yn cymryd y cwis 10 munud hwn, sy’n rhan o fenter Iechyd Gwell y GIG.

Symbol yn cynrychioli'r GIG

Cyfrifwch oedran eich calon

Mae oedran eich calon yn rhoi syniad i chi o ba mor iach yw eich calon. Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gymharu eich oedran go iawn ag oedran eich calon drwy ateb cwestiynau am eich iechyd.

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd, cewch gefnogaeth i chwilio am waith

Darganfyddwch pa gymorth chwilio am waith sydd ar gael os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gan gynnwys cynllun Mynediad at Waith llywodraeth y DU a menter Every Mind Matters y GIG.

Cael archwiliad iechyd GIG

Trefnwch asesiad iechyd am ddim gan GIG os ydych yn oedolyn yn Lloegr rhwng 40 a 74 oed. Darganfyddwch a ydych mewn mwy o berygl o gael clefyd y galon, diabetes, clefyd yr arennau neu strôc.

Gwella eich iechyd meddwl - Lloegr

Cael eich Cynllun Mind GIG am ddim

Cael cynllun gweithredu iechyd meddwl personol gydag awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i fod yn garedig i’ch meddwl fel rhan o raglen Every Mind Matters y GIG.

Symbol pen dynol gyda blodau'n dod allan ohono

Cofrestrwch i gael negeseuon e-bost gwrth-bryder ar NHS.UK

Rheolwch eich lefelau gorbryder gyda chymorth y gwasanaeth e-bost Every Mind Matters hwn, sy’n rhan o fenter Better Health NHS.

Cael cyngor a chefnogaeth os ydych chi'n teimlo’n unig

Mae unigrwydd yn effeithio ar bob un ohonom, hyd yn oed pan fydd pobl eraill o’n cwmpas. Cael rhywfaint o help pan fyddwch ei angen o’r ffynonellau dibynadwy hyn.

Cael cymorth iechyd meddwl ar frys nawr

Os ydych yn cael meddyliau am hunanladdiad, yn niweidio’ch hun neu wedi meddwl am hunan-niweidio, cysylltwch â llinell argyfwng iechyd meddwl y GIG neu un o’r elusennau a restrir.

Cael cyngor i fyw gyda’ch iechyd meddwl

Rheolwch bryder, dysgwch sut i roi seibiant i’ch meddwl ac ymdopi â bywyd teuluol prysur. Defnyddiwch yr adnodd hwn gan Mind, yr elusen iechyd meddwl.

Ydy eich swydd yn effeithio eich iechyd meddwl?

Gwneud y gorau o’ch ymarfer corff – Lloegr

Bod yn weithgar gyda Better Health y GIG

Waeth faint rydych chi’n ei wneud, mae gweithgarwch corfforol yn dda i’ch corff a’ch meddwl. Dewch o hyd i gymorth am ddim a dibynadwy gan Better Health y GIG, sy’n gartref i’r apiau Couch to 5K ac Active 10.

Grŵp o bobl hŷn sy'n gwenu yn mwynhau ymarferion ysgafn

Creu cynllun ymarfer cryfder a hyblygrwydd

Dewch o hyd i fideos sut i wneud cynllun ymarfer corff i wella’ch cryfder a’ch hyblygrwydd. Rhan o Live Well, cyngor o’r GIG am fyw’n iachus.

Darganfyddwch sut i golli pwysau’n effeithiol

Lawrlwythwch ap Cynllun Colli Pwysau y GIG am ddim i osod nodau colli pwysau, cynllunio’ch prydau, bod yn fwy egnïol a chofnodi eich cynnydd.

Creu cynllun ymarfer rhedeg ac aerobig

Ymarferion rhedeg ac aerobig i’ch helpu i symud a gwella eich ffitrwydd. Rhan o Live Well, cyngor y GIG am fyw’n iach.

Gwnewch i’ch corff deimlo’n well - Lloegr

Darganfyddwch sut i fwyta’n dda

Cael gwybodaeth ac arweiniad am fwyta deiet iach a chytbwys, gan gynnwys cyngor am ddeiet llysieuol a fegan

Dynes yn mwynhau bwyta powlen o salad llysiau

Rhoi’r gorau i ysmygu heddiw

Rhowch y gorau i ysmygu am 28 diwrnod, ac rydych bum gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi am byth. Cael eich cynllun rhoi’r gorau personol am ddim a lawrlwythwch yr app Quit Smoking.

Gweithio ar eich cwsg

Darganfyddwch pam y gallech deimlo’n flinedig a chael cyngor am yr hyn y gallwch ei wneud i atal blinder.

Torri lawr ar alcohol

Gall lleihau faint o alcohol rydych yn yfed fod yn ffordd effeithiol o wella eich iechyd, rhoi hwb i’ch egni ac arbed arian. Cael awgrymiadau ac adnodd syml gan NHS Better Health.

Menopos a chi

Rhowch gynnig ar drosolwg menopos y GIG

Understand menopause and perimenopause symptoms, learn about treatment and try things you can do to help yourself.

Doctor yn dal pad tra'n siarad â chlaf

Nid yw cynnwys Yr Alban ar gael yn Gymraeg

Hanfodion Iechyd

Cymerwch y cwis GIG ‘Sut wyt ti?’

Cael sgôr iechyd personol am ddim pan fyddwch yn cymryd y cwis 10 munud hwn, sy’n rhan o fenter Iechyd Gwell y GIG.

Cyfrifwch oedran eich calon

Mae oedran eich calon yn rhoi syniad i chi o ba mor iach yw eich calon. Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gymharu eich oedran go iawn ag oedran eich calon drwy ateb cwestiynau am eich iechyd.

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd, cewch gefnogaeth i chwilio am waith

Darganfyddwch pa gymorth chwilio am waith sydd ar gael os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gan gynnwys cynllun Mynediad at Waith llywodraeth y DU a menter Every Mind Matters y GIG.

Cael awgrymiadau a theclynnau am gorff a meddwl iach

Mae’r gwasanaeth Live Well yn cynnig cyngor am fyw a theimlo’n dda. Mae adnoddau’n cynnwys awgrymiadau beichiogrwydd, rhestr wirio brechu a help gyda’ch iechyd rhywiol.

Gwella eich iechyd meddwl - Lloegr

Cael help os ydych yn teimlo’n isel neu’n bryderus

Mae adnoddau diogel, am ddim ar gyfer eich lles meddyliol ar gael ledled Cymru, ar-lein a ddros y ffôn. Nid oes angen cyfeiriad arnoch.

Symbol pen dynol gyda blodau'n dod allan ohono

Am help brys cysylltwch â’r llinell wrando iechyd meddwl CALL

Mae’r Community Advice & Listening Line (CALL) yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth ar iechyd meddwl i unrhyw un yng Nghymru. Rhowch gynnig ar ei declyn hunanasesu ar ddulliau therapi gwybyddol ymddygiadol.

Cael cyngor i fyw gyda’ch iechyd meddwl

Rheolwch bryder, dysgwch sut i roi seibiant i’ch meddwl ac ymdopi â bywyd teuluol prysur. Defnyddiwch yr adnodd hwn gan Mind, yr elusen iechyd meddwl.

Ydy eich swydd yn effeithio eich iechyd meddwl?

Gwneud y gorau o’ch ymarfer corff – Lloegr

Byddwch yn gorfforol am fywyd hir

Cael gwybodaeth ar y manteision iechyd sy’n dod wrth wneud ymarfer corff a dysgwch rai syniadau am sut i gadw’n actif.

Grŵp o bobl hŷn sy'n gwenu yn mwynhau ymarferion ysgafn

Rhowch gynnig ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Gofynnwch eich meddyg teulu neu nyrs practis os gallant eich cyfeirio at y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) am fynediad at gynllun ymarfer corff personol dan oruchwyliaeth.

Darganfyddwch sut i golli pwysau’n effeithiol

Mae Pwysau Iach Byw’n Iach yn gynnig unigryw sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion yng Nghymru. Cael cyngor am eich delwedd corff a dod yn actif, ac ymunwch â’r rhestr e-bost.

Darganfyddwch am ymarfer corff ar Age Cymru

Dysgwch sut gall low impact functional training (LIFT), cerdded Nordig, tai chi ac ymarfer corff arall gwella eich iechyd a lles gyda’r canllaw hwn gan elusen Cymraeg Age Cymru.

Gwnewch i’ch corff deimlo’n well - Lloegr

Darganfyddwch sut i fwyta’n dda

Cael gwybodaeth ac arweiniad am fwyta deiet iach a chytbwys.

Dynes yn mwynhau bwyta powlen o salad llysiau

Rhoi’r gorau i ysmygu heddiw gyda Helpa fi i Stopio

Dewiswch y cymorth rhoi’r gorau i ysmygu GIG orau yn eich ardal leol. Mae Helpa fi i Stopio, ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu ysmygwyr gyda mynediad at wasanaethau GIG berthnasol.

Dysgu am flinder a gorflinder

Darganfyddwch pam y gallech deimlo’n flinedig a chael cyngor am yr hyn y gallwch ei wneud i atal blinder.

Torri lawr ar alcohol

Cael awgrymiadau syml a theclynnau i dorri’n ôl ar alcohol fel ffordd effeithiol i wella eich iechyd, hybu’ch egni ac arbed arian.

Menopos a chi

Darllenwch trosolwg Menopos y GIG 111 Cymru

Deall symptomau menopos a perimenopos, dysgu am driniaethau a rhoi cynnig ar bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich hun.

Doctor yn dal pad tra'n siarad â chlaf

Nid yw cynnwys Gogledd Iwerddon ar gael yn Gymraeg