Diolch am gytuno i gefnogi ein hymgyrch, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud hyn, fel cyfeirio at ein safleoedd ymgyrchu trwy eich sianeli eich hun.
Defnyddiwch yr adnoddau canlynol ar eich sianeli wrth hyrwyddo gwefan helpswyddi.
E-bost ar gyfer rhanddeiliaid
Pwnc: ydych chi’n chwilio am waith?
Mae yna filoedd o sefydliadau ledled y wlad sy’n chwilio am bobl newydd ar frys.
Os ydych yn chwilio am waith, rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i chi fod y Llywodraeth wedi lansio gwefan newydd, jobhelp.dwp.gov.uk, i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r swyddi gwag hyn a’ch cefnogi chi gyda phob cam o’ch cais.
Yn llawn awgrymiadau ac arweiniad ar bopeth o sut i grefftio CV perffaith i berffeithio eich sgiliau cyfweld fideo, mae gwefan helpswyddi yn lle da iawn i ddechrau ar eich taith chwiliad waith.
Ewch i https://jobhelp.dwp.gov.uk i ddod o hyd i’ch swydd newydd nesaf.
Erthygl cylchlythyr i’w defnyddio gan randdeiliaid
Defnyddiwch yr erthygl hon i hyrwyddo gwefan helpswyddi mewn unrhyw gylchlythyrau rydych chi’n eu cyhoeddi.
Y Llywodraeth yn lansio adnodd newydd sbon ar gyfer ceiswyr gwaith
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi lansio gwefan newydd i helpu pobl sy’n chwilio am waith
Mae Helpswyddi wedi’i gynllunio i helpu ceiswyr gwaith ledled y DU i sbarduno eu chwiliad waith. Yn llawn awgrymiadau ac arweiniad, mae’n tynnu sylw at y swyddi gwag diweddaraf ac yn helpu ceiswyr gwaith i gydnabod y gwerth y gallant ei gynnig i rolau newydd, yn enwedig mewn diwydiannau sy’n cadw’r wlad i fynd.
Bydd y wefan yn tynnu sylw at ymgyrchoedd recriwtio mewn sectorau sy’n ehangu fel logisteg, gofal, manwerthu bwyd ac amaethyddiaeth, gan ei gwneud yn fan cychwyn da iawn i unrhyw un sy’n chwilio am y cam nesaf.
Cymerwch gip ar y wefan heddiw a’i throsglwyddo i unrhyw un rydych chi’n ei adnabod sydd ar ôl rôl newydd i’w helpu i ddod yn #ArwrGwaith
Swyddi templed cyfryngau cymdeithasol rhanddeiliaid
Copïwch a phastiwch y negeseuon hyn ar eich platfform cyfryngau cymdeithasol
Ymunwch â’r miloedd o bobl mewn rolau allweddol trwy wneud cais am swyddi gwag â blaenoriaeth. Dewch yn arwr gwaith heddiw: http://ow.ly/55ts50zF0Wr #ByddwchynArwrGwaith
Canolbwyntio ar ddod o hyd i rôl newydd? Mae gwefan newydd ‘Canolfan Byd Gwaith’ yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd: http://ow.ly/kwUy50zZJ3l #ByddwchynArwrGwaith
Os ydych yn ddi-waith ar hyn o bryd neu yn wynebu cael eich diswyddo, mae gan wefan newydd ‘Canolfan Byd Gwaith gyngor, awgrymiadau a chanllawiau i helpu. Darganfyddwch fwy: http://ow.ly/kwUy50zZJ3l #ByddwchynArwrGwaith
Mae yna filoedd o agoriadau swyddi mewn diwydiannau hanfodol – helpwch bobl i ddod o hyd iddynt trwy rannu gwefan swyddi newydd ‘Canolfan Byd Gwaith, yn llawn awgrymiadau. http://ow.ly/kwUy50zZJ3l
Mae angen arwyr! Dewch o hyd i filoedd o swyddi mewn sectorau allweddol ar wefan newydd helpswyddi @DWP – llwyth o awgrymiadau ac arweiniad ar sut i wneud cais hefyd #ByddwchynArwrGwaith
Graffeg cyfryngau cymdeithasol i randdeiliaid
Ychwanegwch y graffeg hyn i’ch neges cyfryngau cymdeithasol i gyd fynd â’r negeseuon uchod
Diweddariadau ar y swyddi diweddaraf

Awgrymiadau CV a chyfweliad

Canllawiau ar newid y math o swyddi

Mynnwch gyngor arbenigol
