Neidio i’r cynnwys

Adeiladu

P'un a ydych chi'n dechrau yn eich gyrfa, yn newid swyddi neu'n symud o sector gwahanol mae ystod eang o rolau a chyfleoedd ar gael yn y byd adeiladu.

MATHAU O ROLAU

Gallwch ddechrau yn adeiladu unrhyw bryd o gadael yr ysgol i nes ymlaen yn eich gyrfa. Mae llawer o bwyntiau mynediad ar gael gan gynnwys prentisiaethau, prentisiaethau uwch (sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd) neu gyfleoedd lefel mynediad lle gallwch ddysgu yn y swydd.

Mae gan lawer o gwmnïau adeiladu mawr ac ymgynghoriaethau raglenni graddedigion gyda niferoedd penodol yn cael eu derbyn bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol lwybrau i yrfa yn y diwydiant adeiladu, edrychwch ar yr adran ‘Beth yw fy opsiynau’ ar  wefan Go Construct neu ewch i  wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol.

Mae crefftau fel gosod brics, teils a phlymio yn dal i fod yn hanfodol a bydd bob amser eu hangen. Fodd bynnag, mae llawer mwy o rolau i ddewis ohonynt ar wefan Go Construct. Edrychwch ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol am ragor o wybodaeth am y gwahanol rolau sydd ar gael.

Yn ogystal ag adeiladu tai, mae yna adeiladu masnachol – sy’n cynnwys popeth o swyddfeydd i stadiymau pêl-droed – ac isadeiledd fel ffyrdd, pontydd, cyflenwad dŵr a draenio, cyflenwad trydan a mwy.

Yna mae logisteg o ddarparu’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â chyfleoedd mewn ymchwil a datblygiad, adnoddau dynol a chynllunio i’r dyfodol.

I ddarganfod sut beth yw hi mewn gwirionedd gan bobl sy’n gweithio yn y sector, darllenwch rai astudiaethau achos  ar wefan Go Construct.

MANTEISION O WEITHIO YN Y DIWYDIANT ADEILADU

  • Mae amrywiaeth eang o swyddi yn y maes adeiladu – ceir y rolau ar y safle, o lafurwr cyffredinol i fasnachwyr a chrefftau ymarferol fel gosod briciau, gwaith coed, plymio ac addurno. Ac mae yna rolau eraill gan gynnwys rheoli prosiectau a safleoedd, cynllunio a pheirianneg.
  • Mae prinder sgiliau yn y maes adeiladu ar hyn o bryd – mae hyn yn gyfle gwych i raddedigion newydd.
  • Mae’r gwaith adeiladu ar flaen y gad o dechnolegau newydd – gan gynnwys modelu cyfrifiadurol 3D, dronau arolwg a phrosesau newydd i ddatblygu deunyddiau gwell.
  • Mae cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i’r diwydiant adeiladu. Darganfyddwch fwy am amrywiaeth yn y byd adeiladu ar Go Construct. Mae mwy a mwy o fenywod yn gweithio yn y byd adeiladu. Mae menywod yn gwneud yr ystod llawn o swyddi o weithio ar y safle i oruchwylwyr a rheolwyr prosiect i beirianwyr.

P’un a oes well gennych swydd weithredol lle rydych chi tu allan, rôl mewn swyddfa sy’n dibynnu mwy ar gynllunio a threfnu, neu rywbeth sy’n cyfuno’r ddau, mae rhywbeth i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch dewisiadau.

Saer coed yn gweithio gydag offer wrth fainc

Sgiliau Dymunol

Mae amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rolau ym maes adeiladu gan gynnwys cyfathrebu, datrys problemau, sylw i fanylion a gwaith tîm. 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

DOLENNI PELLACH

  • Os ydych chi’n awyddus i gael y sgiliau i fynd i mewn i’r sector hwn neu eraill, mae Skills Bootcamps wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa.
  • Adult Skills Learning Offer – os nad oes gennych gymhwyster lefel 3 (Safon Uwch neu Lefel AS), efallai y byddwch yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim gyda chyfleoedd yn y sector hwn ac eraill.
  • Os ydych rhwng 16-19 oed efallai y byddwch yn gymwys i wneud T-Level yn y sector hwn neu eraill.

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd