
P’un a ydych yn chwilio am swydd newydd neu newid eich gyrfa, gallwch gael help i ddiweddaru’ch sgiliau am ddim.
Gall dysgu rhywbeth newydd neu adnewyddu eich gwybodaeth wneud gwahaniaeth enfawr i’ch rhagolygon a’ch hyder. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran sgiliau digidol – mae 82% o swyddi gwag bellach eu hangen, ac mae nifer y swyddi digidol yn tyfu bron i deirgwaith gyflymach na rolau eraill.
Gallai gwella’ch sgiliau digidol roi mantais go iawn i chi mewn cyfweliad trwy dynnu sylw at yr hyn y gallwch gynnig i’r swydd. Gellir trosglwyddo llawer o sgiliau i rolau eraill a gallai set sgiliau ehangach agor cyfleoedd mewn diwydiannau neu sectorau nad ydych erioed wedi’u hystyried.
Mae yna lawer o gyrsiau am ddim ar-lein – o feistroli PowerPoint i ddysgu Codio. Ac mae yna help i wella rhifedd os yw hynny’n helpu hefyd.
- Mae gan gwefan ‘The Skills Toolkit’ gyrsiau digidol a rhifedd o ansawdd uchel am ddim gan ystod o wahanol sefydliadau.
- Mae gwefan BITC wedi lansio ymgyrch genedlaethol yn hyrwyddo’r 8 sgil hanfodol rydym i gyd eu hangen i ffynnu mewn addysg, gwaith a bywyd, (Gwrando, Cyflwyno, Datrys Problemau, Creadigrwydd, Aros yn Gadarnhaol, Anelu’n Uchel, Arweinyddiaeth, Gwaith Tîm)
- Mae LinkedIn a Microsoft yn cynnig dysgu ar-lein am ddim ar gyfer ystod o swyddi y mae galw amdanynt – gan gynnwys rhaglenwyr, cymorth TG, dylunio a chynrychiolwyr cwsmeriaid. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan LinkedIn. Mae adnoddau pellach ar wefan Microsoft.
- Mae gan y wefan Google Digital Garage lawer o gyrsiau i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau gyrfa, gan gynnwys ysgrifennu CV, rheoli prosiectau a lles.
- Mae gwefan Keeping Britain Working wedi lansio cyfres o ddigwyddiadau ar y we i geisiwyr gwaith wedi’u cynllunio i’ch helpu i dyfu eich gyrfa.
- Gallwch hefyd gael cefnogaeth gan wefan My World of Work (i’r Alban) a gwefa Gyrfa Cymru.
- Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymuno gyda’r Brifysgol Agored (OU) i gynnig teclynnau hyfforddi am ddim ar wefan y Brifysgol Agored. Mae’r rhain wedi’u dylunio i’ch helpu i ddod o hyd i swydd, datblygu’ch gyrfa neu’ch busnes.
- Dyluniwyd gwybodaeth ar wefan Accenture Skills to Succeed i’ch helpu i ddewis yr yrfa gywir ac adeiladu’r sgiliau cyflogadwyedd allweddol rydych eu hangen i ddod o hyd i’r swydd honno a’i chadw.
- Mae rhaglen BT Work Ready yn helpu pobl 18-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, i baratoi ar gyfer byd gwaith. Mae ar gael ar wefan BT ac yn eich helpu i wella eich sgiliau digidol a chyflogadwyedd.
- Mae LifeSkills ar wefan Barclays yn rhaglen am ddim sy’n cynnig adnoddau addysg, gweithgareddau ar-lein, digwyddiadau a chyfleoedd profiad gwaith.
- Mae gwefan Lloyds Bank Academy yn cynnig hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar wella’ch sgiliau, p’un a yw’n mynd i’r afael â chyfrifiaduron, dechrau gyrfa newydd neu fynd â busnesau i lefel hollol newydd.
- Mae Diageo Learning for Life: Virtual Academy, a gynhelir ar wefan Springboard, wedi’i gynllunio’n arbennig i weithwyr lletygarwch a chafodd eu diswyddo’n ddiweddar ac sy’n edrych i uwchsgilio a hybu cyflogadwyedd
- Mae gwefan Springboard Digital Hospitality Academy yn cynnig help i weithwyr lletygarwch sydd wedi’u diswyddo, unigolion di-waith gyda neu heb brofiad mewn lletygarwch a’r rheini sydd â diddordeb mewn dysgu am rolau yn y sector lletygarwch.
Darganfyddwch gan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol sut i adnabod sgiliau trosglwyddadwy a gwrando ar enghreifftiau ymarferol o sut y gellid hefyd eu defnyddio mewn swydd.
Cynnwys cysylltiedig


